Mae Tyfu gyda ni yn brosiect tyfu cymunedol i ddod â'r gymuned at ei gilydd o bob oed
gwella ardaloedd o fewn y pentref ar gyfer tyfu llysiau, gwella bioamrywiaeth a gwella ardaloedd o fewn y pentref yn gyffredinol.
Dechreuon ni weithio ar y prosiectau hyn ym mis Mai 2020 gyda phlaniwr yn y parc gyda blodau gwyllt
Hyd yn hyn rydym wedi adeiladu a phlannu tri gwely uchel ar gyfer llysiau, dau ar gyfer blodau gwyllt wedi gosod tŷ gwydr, plannu coed ffrwythau a 100 o goed brodorol.
Rydym hefyd wedi plannu tri gwely o dan yr arwyddion ar gyfer Trimsaran a Phenymynydd a phlannu Cennin Pedr a Blodau tymhorol, dau wely hefyd wedi eu lleoli ar yr hen iard lo.
.
Mae pren ar gael i adeiladu mwy dewch draw i adeiladu un ar gyfer eich arwydd stryd.
Dewch draw i ymuno â ni, Croeso i bawb dydd Iau am 10yb yn y Ganolfan Hamdden / tudalen facebook: tyfu gyda ni Trimsaran
Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a’r grantiau rydym wedi’u derbyn hyd yma gan yr elusennau a’r sefydliadau canlynol,
Cronfa Dreftadaeth: https://www.heritagefund.org.uk/funding/local-places-nature
cadwch gymru'n daclus: https://keepwalestidy.cymru/